Document de soutien aux prisonniers politiques bretons, émanant du mouvement "Cymru Goch"

 

 MAE nifer o garcharorion gwleidyddol Llydewig wedi cychwyn ympryd er mwyn sicrhau eu hawliau. Mae 10 o garcharorion gwlatgarol sosialaidd yn y ddalfa yn Ffrainc yn dilyn ffrwydriadau gan mudiad arfog yr ARB, Byddin Gweriniaethol Llydaw. Mae'r gweithredwyr wedi bod yn y carchar yn disgwyl clywed os ydynt am gael eu herlyn ers chwe mis.
Mae tri o'r rhain wedi dechrau ymprydio ers Tachwedd 1af er mwyn sicrhau statws gwleidyddol, gan fynnu'r hawl i :
ˇ Gael eu carcharu gyda'u gilydd;
ˇ Gael eu carcharu yn Llydaw;
ˇ Gael rhyddid garcharorion sal;
ˇ Yr hawl i ddefnyddio Llydaweg yn ystod yr achos.
Ymhlith y tri mae Gerard Bernard, sy wedi colli 6kg wedi 10 niwrnod o ymprydio. Mae o'n wael yn barod. Mae ganddo lefelau uchel o siwgwr a cholesterol yn ei waed.
 Y cyntaf i ddechrau'r ympryd oedd Gael Roblinn ac ar Ragfyr 1af roedd Paskal Laizé yn ymuno yn y brotest.
Gallwch ddangos eich cefnogaeth drwy ddanfon llythyr at Arnaud Vannier, 272336 T 2 / 136 42 Rue de Santé, 75674 Paris. Dylid cyfeirio pob llythyr at y carcharorion gwleidyddol fel "Prisonniers Political".
Gallwch gynnwys stampiau, cerdiau post heb eu llenwi, lluniau ond dydi'r awdurdodau ddim yn caniatau danfon llyfrau nac arian.
Mae Cymru Goch yn cefnogi'r alwad am statws wleidyddol i'r carcharorion ac yn ategu eu galwad nhw am Lydaw Rydd a Sosialaidd.
ˇ Three Breton socialist republican activists have started a hunger strike in jail. They are among 10 being held in connection with a renewed bombing campaign by ARB, the Breton Republican Army.
They are demanding political status and the right to use the Breton language in any legal proceedings.